Ymwelodd disgyblion Blwyddyn 11 Ysgol Gyfun Treorci â Champws Trefforest PDC ar yr 8fed o Fedi ar gyfer ail ran eu rhaglen pontio. Wrth iddynt agosáu at eu harholiadau TGAU cyntaf, cawsant sgyrsiau ar Dechnegau Arholiadau, Adolygu Digidol, Dewisiadau ar gyfer y dyfodol ac esiampl o sut mae’r brifysgol yn gallu newid eich bywyd, oll wedi’u cyflwyno gan Rachel Taylor. Mae hyn yn atgyfnerthu’r sesiynau ar dechnegau adolygu cafodd y myfyrwyr ar ddiwedd Blwyddyn 10.

Treorchy Transition Day 2017