Disgrifiad o'r Prosiect
Ymweliadau Campws y Brifysgol
Mae First Campus yn cynnig cyfle i ddisgyblion CA3 gael cipolwg ar fywyd myfyrwyr ar gampws prifysgol lleol.
Yn ystod yr ymweliad bydd disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithdai, gweithgareddau a chyflwyniadau i roi trosolwg ar beth yw pwrpas Addysg Uwch.
Bydd y wybodaeth yn cynnwys:
Pam Prifysgol? Archwilio cyfleoedd a phrofiadau y mae addysg uwch yn eu cynnig
Eich gyrfa yn y dyfodol! Archwilio swyddi posib ar gyfer y dyfodol ac yn ystyried y sgiliau, y cymwysterau a’r profiadau y gallai fod eu hangen.
Cyllid myfyrwyr. Sesiwn ryngweithiol sy’n caniatáu i bobl ifanc feddwl am gyllid a chyllidebu ar gyfer eu dyfodol.
Taith campws. Dan arweiniad myfyrwyr prifysgol cyfredol. Cyfle i archwilio cyfleusterau campws, siarad â myfyrwyr a gofyn cwestiynau am fywyd myfyrwyr.
Yn ôl disgyblion sydd wedi ymweld â ni maen’t wedi cael profiad cadarnhaol, sydd wedi newid eu persbectif o’r Brifysgol a’r hyn sydd ganddi i’w gynnig:
‘Fe wnaeth y daith fy helpu i ddeall mwy am y brifysgol a’r cyfleoedd’
‘Fe wnes i fwynhau deall faint sy’n digwydd yn y brifysgol’
Os oes gennych ddiddordeb archebu lle ar gyfer eich disgyblion a fydd, gobeithio, yn ysbrydoli ac yn helpu i’w tywys i ystyried beth sydd nesaf, a beth sydd gan brifysgol i’w gynnig.
Mae Diwrnod Ymweld â’r Campws fel arfer yn rhedeg rhwng 9.30am a 2pm
Mae nifer o ddyddiau ar gael, ewch i’n tudalen digwyddiadau i gofrestru diddordeb