Disgrifiad o'r Prosiect
Rydym yn cynnig nifer o leoedd am ddim ar ein modiwl Mynediad Pobl, gwaith a chymdeithas i bobl sy’n byw
mewn ardaloedd Cymunedau yn gyntaf ac ardaloedd blaenoriaeth eraill ledled Cymru. Ariennir y prosiect hwn gan dri o bartneriaethau Ymgyrraedd yn Ehangach yng Nghymru.
I ddarganfod mwy, lawrlwythwch daflen ‘Yn eich cefnogi chi i mewn i addysg uwch’ ac ewch i wefan y Brifysgol Agored.
http://www.open.ac.uk/wales/cy/astudio/cyrsiau-chymwysterau/eich-cefnogi-wrth-gamu-i-fyd-addysg-uwch
http://www.open.ac.uk/wales/en/study/courses-and-qualifications/access-project
Mae’r modiwl yn dechrau ym mis Hydref a Chwefror bob blwyddyn.
Os ydych chi’n byw yn Ne Ddwyrain Cymru (Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Caerdydd, Casnewydd, Blaenau Gwent, Torfaen, Sir Fynwy a Phen-y-bont ar Ogwr) a bod gennych ddiddordeb mewn astudio’r modiwl hwn, cwblhewch ffurflen First Campus ar-lein er mwyn cadarnhau eich bod yn gymwys.