Disgrifiad o'r Prosiect
Bydd cwmni Tin Shed Theatre o Gasnewydd yn perfformio campwaith Herman Melville ar gondola Pont Gludo Casnewydd ar 3-16 Hydref 2018.
Mae Moby Dick yn adrodd stori Ishmael, dyn ifanc sydd eisiau gadael y tir a gweld rhan ddyfrllyd y byd. Gan gwrdd â llu o bobl eraill coll, mae’r stori yn ymwneud â themâu cyfeillgarwch, iechyd meddwl a’r angen am gyfeillgarwch dynol. Fodd bynnag, mae’r amgylchiadau ar daith Ishmael ar draws y môr yn newid yn ddigon sydyn gyda ffawd yn profi ei ffydd a gwallgofrwydd ei gapten yn profi ei benderfynoldeb.
Gallwch gael blas ar y stori glasurol hon wedi’i haddasu ar gyfer Casnewydd yr 21ain Ganrif, wrth i Tin Shed Theatre adrodd stori Moby Dick mewn modd dewr a manwl, ar gondola arnofiol Pont Gludo Casnewydd wedi’i pherfformio gan berfformwyr proffesiynol ac amatur lleol.
Cymerwch olwg at y datganiad i’r wasg atodedig am ragor o wybodaeth.
Gellir bwcio tocynnau ar Eventbrite:
https://www.eventbrite.co.uk/e/moby-dick-on-the-transporter-bridge-tickets-49291688768