Disgrifiad o'r Prosiect
Dadl CA4
Gwneud Dewisiadau Personol ynghylch Newid Hinsawdd.
Dyddiad: 18fed Rhagfyr 2019
Amser: 09: 30-13: 45
Lleoliad: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Dewch i ymuno yn y ddadl ynghylch a ddylem newid ein ffordd o fyw i geisio taclo newid hinsawdd. Bydd y diwrnod yn cynnwys gwybodaeth am wyddoniaeth newid yn yr hinsawdd, gwybodaeth am ddewisiadau, a chyfle i ddod o hyd i dystiolaeth gan ddefnyddio orielau’r Amgueddfa.
Trwy gymryd rhan yn y digwyddiad hwn bydd cyfle i chi glywed gan, a dadlau gyda rai o’r arbenigwyr yn y maes. Ar y diwedd y dydd bydd cyfle i leisio’ch barn drwy bledleisio o blaid neu yn erbyn y datganiad.
Ymysg y siaradwyr mae’r Athro Caroline Lear, adran Gwyddorau Daear, Prifysgol Caerdydd, Dr Stuart Capstick a Dr Caroline Verfuerth, Canolfan Newid Hinsawdd a Thrawsnewid Cymdeithasol (CAST).
Yn dilyn hyn, bydd cyfle i ddisgyblion ymweld ag orielau Hanes Naturiol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gweld ein harddangosfa ffasiwn ffwrdd a hi a grëwyd gan bobl ifanc sy’n ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd, a chwrdd ag ymwelydd arbennig iawn, Dippy y Diplodocus *.
Bydd y digwyddiad unigryw hwn, ar gyfer myfyrwyr CA4, yn:
• datblygu sgiliau meddwl a chyfathrebu ynghyd â gweithio gydag eraill a chyfranogi
• rhoi cyfle i ddatblygu barn ar safbwyntiau gwyddonol a moesegol ynghylch newid hinsawdd
• rhoi’r cyfle i gwrdd ag arbenigwyr. gwrando arnynt, a’u cwestiynu
I archebu ar y cyfle cyffrous hwn, e-bostiwch; firstcampus@cardiff.ac.uk
* Mae Dippy ar daith: Antur Hanes Natur yn diolch i bartneriaeth rhwng Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain â Sefydliad Garfield Weston, gyda chymorth Dell EMC a Williams&Hill. Gan weithio gyda phartneriaid ar draws y DU mae un o wrthrychau mwyaf eiconig yr Amgueddfa Hanes Natur yn Llyndain ar daith am dair blynedd.