Disgrifiad o'r Prosiect
Mae’r cwrs preswyl Blwyddyn 9 yn ddigwyddiad blynyddol sy’n gweld disgyblion o ysgolion ledled De Ddwyrain Cymru yn ymweld â champws Prifysgol.
Y bwriad yw rhoi profiad 3 diwrnod i’r disgyblion a cheisio codi eu dyheadau addysgol trwy gymysgedd o sesiynau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad yn ogystal â profiad ymarferol o fywyd fel myfyriwr israddedig.
Mae gan gyfranogwyr y prosiect y dewis i astudio un o ystod eang o gyrsiau. Mae meysydd pwnc blaenorol wedi cynnwys Gwyddoniaeth Biofeddygol, Dylunio Ffasiwn, Lletygarwch a Digwyddiadau, a Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd a Pheirianneg a Seiberddiogelwch ym Mhrifysgol De Cymru.
Yn ogystal ac astudio eu cwrs dewisol mae gan y disgyblion gyfle i brofi bywyd myfyriwr gyda gweithgareddau yn undeb a byw yn y neuaddau preswyl gyda’u cyfoedion. Daw’r prosiect i ben gyda seremoni Raddio i ddathlu cyflawniadau’r cyfranogwr gyda’i ffrindiau a’u teulu.
Am fwy o fanylion cofnodwch eich diddordeb ar y dudalen digwyddiadau