

- mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
Sadwrn 14 Rhagfyr 2019 – Darlithoedd Nadolig y Sefydliad Brenhinol (Pontypridd)
14th Rhagfyr 2019 @ 5:00 pm - 7:45 pm
Digwyddiad Navigation

Mae Prifysgol De Cymru’n falch iawn o’ch gwahodd chi i wylio ffrwd fyw DARLITHOEDD NADOLIG y Sefydliad Brenhinol – ‘Secrets and lies: The Hidden Power of Maths’.
Mae tocynnau am ddim ar gael i’w harchebu ar gyfer Cyfres Darlithoedd Nadolig y Sefydliad Brenhinol, a fydd yn cael eu ffrydio’n fyw ym Mhrifysgol De Cymru.
Mae PDC yn un o 20 lleoliad ledled y DU a fydd yn ffrydio’r darlithoedd yn fyw o’r RI yn Llundain. Bydd y darlithoedd hefyd yn cael eu darlledu ar BBC Four rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Mewn cyfres o ddarlithoedd llawn arddangosfeydd rhyfeddol ac arbrofion byw, bydd Hannah yn dangos i ni sut i ddadgodio rhifau cudd bywyd, gan ein helpu i wneud dewisiadau gwell, gwahanu ffeithiau rhag ffuglen, a byw bywydau hapusach. Ond mae hi hefyd yn rhybuddio sut y gall ein ffydd ddiwyro mewn ffigurau arwain at drychineb pan gawn y symiau yn anghywir.
Archebwch eich tocynnau trwy glicio ar y dyddiadau isod (mae’r dudalen yn ddwyieithog):
* Gall ysgolion archebu fel grŵp neu gall rhieni archebu’n unigol *
Darlith Dau
Sadwrn 14 Rhagfyr 2019, 5yh– 7.45yh – Campws Pontypridd