Ymwelodd disgyblion Blwyddyn 9 o Ysgol Uwchradd Pen y Dre â Phrifysgol De Cymru, Campws Glyn-taf Uchaf, i gael blas ar weithdy Cemeg adeg y Nadolig. Yn ystod eu hymweliad, roedd cyfle i’r bobl ifanc wneud canhwyllau, eli dwylo, bomiau bath ac addurniadau coeden Nadolig gan ddefnyddio cemeg yn y labordai. Paciwyd yr eitemau mewn bagiau rhodd a gellid eu rhoi fel anrhegion Nadolig pe fynnwyd.
Dywedodd Nicola Enticknap o’r ysgol: “Diolch am drefnu’r digwyddiad ddoe, doedd y disgyblion methu aros i adrodd yr hanes i bawb heddiw!”
Cafwyd adborth gwych gan y bobl ifanc ar gyfer y digwyddiad, gyda 75% ohonynt heb ymweld â Phrifysgol o’r blaen. Pan ofynnwyd iddynt beth oedd rhan orau’r digwyddiad, dyma oedd yr ymatebion:
“Gwneud yr eitemau oedd y rhan orau, yn fy marn i, oherwydd rydych chi’n gallu gweld yr adweithiau cemegol yn digwydd a gweld sut mae cemeg yn newid pethau.”
“Y cwbl, wedi mwynhau pob eiliad.”
Gwneud yr eitemau, yn enwedig y bomiau bath, oedd hoff ran nifer o’r cyfranogwyr!