
Amdanom Ni
First Campus, Rhaglen Ymgyrraedd yn Ehangach a ariennir gan CCAUC, yw Partneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach De Ddwyrain Cymru. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys yr holl sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach yn Ne Ddwyrain Cymru
Mae First Campus yn bodoli i ehangu mynediad i addysg uwch drwy fynd i’r afael â rhwystrau i fynediad, dilyniant a llwyddiant mewn addysg uwch. Byddwn yn cyflawni hyn trwy gynnig cyfres o ymyriadau cynaliadwy, hirdymor i gefnogi codi cyrhaeddiad, cynyddu ymwybyddiaeth a darparu cymorth ar gyfer dilyniant i addysg uwch a chyfleoedd dysgu lefel 4.
Diben First Campus, Ymestyn yn ehangach yw:
1. ehangu mynediad i ddarpariaeth AU lefel 4 ym mhob dull, lleoliad a chydag ystod o ddarparwyr;
2. lleihau rhwystrau i fynediad, a chodi dyheadau a llwyddiant addysgol ar ddarpariaeth addysg uwch lefel 4, ar gyfer grwpiau blaenoriaeth.
Rydym yn blaenoriaethu’r grwpiau canlynol:
3. Pobl ifanc ym mlynyddoedd olaf yr ysgol gynradd i Gyfnod Allweddol 4 ac Oedolion dros 21 oed heb gymwysterau lefel 4 yn y ddau gwintel isaf ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) ar gyfer rhanbarth De-ddwyrain Cymru
4. Pobl ifanc â phrofiad o ofal
5. Gofalwyr ym mhob grŵp oedran
Mae partneriaeth First Campus yn cynnwys staff ym mhob un o’r sefydliadau Addysg Uwch, gan ganiatáu i First Campus fanteisio ar yr amrediad o arbenigedd a gweithgareddau pwnc sydd ar gael o fewn y sefydliadau hyn.
Tîm First Campus
Prifysgol De Cymru, Trefforest
Yr Hub – Tîm Canolog First Campus
Chris Webb – Cyfarwyddwr First Campus
Allyson Walters – Rheolwr Gweithrediadau First Campus
Robin Davis – Swyddog Data First Campus
PDC Tîm Dosbarthu
Jane Ellis – Rheolwr First Campus (Addysg Oedolion)
Natalie Kendrick – Doyle – Swyddog First Campus
Lynda Gyngell – Swyddog First Campus
Sally Thelwell – Swyddog First Campus
Nicola Warrick – Gweinyddwr First Campus
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
TBA – Rheolwr First Campus (Addysg Pobl Ifanc 10-16)
Alexandra Nita – Swyddog First Campus
Ceri Nicolle – Swyddog First Campus
Christine Prescott – Gweinyddwr First Campus
Prifysgol Caerdydd
Andrew Kirby – Rheolwr First Campus Dros Dro (Grwpiau Blaenoriaeth)
Ben Anderson – Swyddog First Campus
Megan Tabner – Swyddog First Campus
Cadance Butler – Gweinyddwr First Campus
Defnyddiwch dudalen Cysylltu â Ni os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau.
Ein Strategaeth
Mae ‘Strategaeth Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach First Campus 2018 – 2022’ ar gael yma:
Strategaeth Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach First Campus
Polisi Amddiffyn Plant
Mae First Campus eisiau sicrhau ei bod yn cyflawni ei dyletswydd i ddiogelu ac amddiffyn y plant mae’n gweithio gyda nhw a sicrhau y cynhelir y safonau uchaf posib. Mae felly’n briodol bod gan First Campus bolisïau a gweithdrefnau clir yn eu lle er mwyn cyfeirio atynt pan fod pryder yn ymwneud â llesiant plentyn neu yn ymwneud ag ymddygiad aelod o staff. Mae gan bob Sefydliad Addysg Uwch o fewn partneriaeth First Campus ei Bolisi Amddiffyn Plant ei hun, neu maen nhw wrthi’n ei gwblhau. Cynhyrchwyd Polisi Amddiffyn Plant First Campus yn unol â’r polisïau hyn.
Ein Partneriaid
Partneriaid Cyflogi
Arweinwyd gan Brifysgol De Cymru



Partneriaid nad ydym yn cyflogi




