Bwriad Gwyddoniaeth Ymarferol yw annog pobl ifanc ledled Cymru i astudio pynciau sy'n gysylltiedig â Gwyddoniaeth, Mathemateg ac Iechyd y tu hwnt i gyfnod TGAU. Partneriaeth rhwng sefydliadau addysg uwch, colegau addysg bellach a darparwyr addysg eraill ledled Cymru yw Gwyddoniaeth Ymarferol.
Sefydlwyd y prosiect, sy’n gangen o brosiect Campws Cyntaf, i greu brwdfrydedd dros bynciau sy’n gysylltiedig â Gwyddoniaeth, Mathemateg ac iechyd, ac o wneud hynny, annog mwy o ddisgyblion i gymryd y pynciau hynny y tu hwnt i gyfnod TGAU. Gobaith Gwyddoniaeth Ymarferol yw codi cyrhaeddiad academaidd mewn pynciau sy'n gysylltiedig â Gwyddoniaeth a gwneud cyfraniad mawr i'r gwaith o gyrraedd targedau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Ymgeisio’n Uwch Ymgeisio’n Ehangach. Bydd Gwyddoniaeth Ymarferol yn gweithredu amrywiaeth o weithgareddau cyffrous a heriol a digwyddiadau ar gyfer disgyblion cyfnod allweddol 4 a 5 ledled Cymru. Y bwriad yw cyfoethogi'r cwricwlwm, gweithio yn erbyn tangyflawni, a chodi dyheadau.
Nod y wefan hon yw darparu “gwybodaeth, cyngor ac arweiniad annibynnol a diduedd i bobl ifanc ac oedolion, yn ôl buddiannau’r unigolyn ei hun.” (Polisi Gwyddoniaeth ar gyfer Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2006)
|